Trefynwy
Mae Trefynwy yn dref osgeiddig gyda lleoliad ardderchog ar gydlifiad tair afon – Trothi, Mynwy ac yn fwy enwog, afon Gwy. Mae ei phorth byd-enwog o’r drydedd ganrif ar ddeg, ar Bont Mynwy, yn unigryw ym Mhrydain ac yn gweddu i orffennol balch y dref.
Mae gan Drefynwy rai adeiladau Tuduraidd gwych iawn ac mae hefyd yn em o bensaernïaeth Sioraidd. Mae hen westai’r goets fawr a’r Neuadd y Dref Sioraidd yn Agincourt Square, yn ei gwneud yn un o’r trefi mwyaf deniadol o’i bath yng Nghymru. Dyma galon y dref lle mae’r stryd fawr, lonydd cul o siopau unigol ac ardaloedd bwyta mewn clos deniadol yn dod at ei gilydd.
Mae’r dref yn falch iawn o’i meibion enwog. Ganwyd y Brenin Harri’r V yn Nhrefynwy. Mae ei gerflun ar Neuadd y Dref a ‘Gardd y Brenin’ yn coffau ei enedigaeth yn y castell yn 1387. Magwyd Sir Charles Rolls, cydsylfaenydd cwmni ceir Rolls Royce, yn yr Hendre ger Trefynwy. Rhoddir sylw i’w weithgareddau yn ymwneud â balwnau, ceir cynnar ac awyrennau yn Amgueddfa’r dref. Mae stad yr Hendre bellach yn darparu amgylchion ysblennydd ar gyfer cwrs golff enwog Rolls of Monmouth.
Mae hwn hefyd yn gartref i Amgueddfa Nelson, atyniad o bwysigrwydd rhyngwladol. Mae’n dathlu bywyd a hoffterau Nelson ac yn coffau’r llyngesydd enwog hwn gyda chasgliad unigryw o femorabilia ac eitemau personol, gan gynnwys y cleddyf y bu’n ymladd ag ef a llythyrau at ei annwyl Fonesig Hamilton.
Hanes Byr
Manteisiwyd ar safle amddiffynnol naturiol tref Trefynwy – a warchodir gan ei dwy afon, afon Gwy ac afon Mynwy, ac sy’n amddiffyn llwybrau i mewn i Gymru – gan y Rhufeiniaid, er i’r dref farchnad sy’n bodoli heddiw gael ei sefydlu gan y Normaniaid. Sefydlwyd eu castell, y mae’r rhan gynharaf ohono yn dal ar ôl, yn union ar ôl y Goncwest, ac ymunwyd ag ef yn fuan gan briordy i’r Benedictiaid a marchnad. Bu i’r setliad masnachol, a dyfodd o dan warchodaeth y castell, ddatblygu’n fwrdeistref ganol oesol, yn dibynnu ar fasnach ar yr afon.
Ffynnodd y dref fel tref sirol, lle cynhaliwyd y brawdlys. Er bod cynllun y dref yn un canol oesol, mae’r ymddangosiad cyffredinol yn adlewyrchu dwy ganrif o’r ffyniant a’r bywiogrwydd mwyaf yn hanes Trefynwy, o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg ymlaen.
Services (cy)For a 5 day weather forecast please click here
Transport (cy)For a map of the area please click here
http://www.multimap.com/maps